P-04-445 : Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Monima O’Connor ar ôl casglu 10 llofnod ar lein. Casglodd deiseb gysylltiedig dros 500 o lofnodion.

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, y rhai a lofnodwyd isod, yn galw ar breswylwyr Cymru sy’n berchen ar gŵn a chathod i gefnogi ein deiseb i Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y gwaharddiad ar goleri electronig wedi’u cysylltu â ffensys ffin anweladwy/ffensys cudd fel y gallwn ddiogelu ein hanifeiliaid anwes rhag niwed naill ai o: a) Traffig Ffyrdd b) Crwydro i Berygl c) Achosi damweiniau a allai olygu y byddwn ni, perchenogion y cŵn a’r cathod, yn gyfreithiol atebol iddynt.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ceredigion

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru